Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esther 8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Gwŷs y Brenin ynglŷn â'r Iddewon

1. Y diwrnod hwnnw rhoddodd y Brenin Ahasferus dŷ Haman, gelyn yr Iddewon, i'r Frenhines Esther; a daeth Mordecai i ŵydd y brenin, oherwydd yr oedd Esther wedi dweud wrtho pa berthynas oedd ef iddi.

2. Yna tynnodd y brenin ei fodrwy, a gymerodd yn ôl oddi ar Haman, a'i rhoi i Mordecai. Rhoddodd Esther dŷ Haman yng ngofal Mordecai.

3. Unwaith eto apeliodd Esther at y brenin a syrthio wrth ei draed. Wylodd ac erfyn arno rwystro'r drygioni a gynllwyniodd Haman yr Agagiad yn erbyn yr Iddewon.

4. Estynnodd y brenin ei deyrnwialen aur at Esther, a chododd hithau a sefyll o'i flaen a dweud,

5. “Os gwêl y brenin yn dda, ac os cefais ffafr ganddo, a bod y mater yn dderbyniol ganddo, a minnau yn ei foddhau, anfoned wŷs i alw'n ôl y llythyrau a ysgrifennodd Haman fab Hammedatha yr Agagiad gyda'r bwriad o ddifa'r Iddewon sydd ym mhob un o daleithiau'r brenin.

6. Sut y gallaf edrych ar y trybini sy'n dod ar fy mhobl? Sut y gallaf oddef gweld dinistr fy nghenedl?”

7. Yna dywedodd y Brenin Ahasferus wrth y Frenhines Esther a Mordecai'r Iddew, “Yr wyf wedi rhoi tŷ Haman i Esther, a chrogwyd yntau ar grocbren am iddo ymosod ar yr Iddewon.

8. Yn awr ysgrifennwch chwi fel y mynnoch ynglŷn â'r Iddewon yn fy enw i, a selio'r ddogfen â'r sêl frenhinol, oherwydd ni ellir newid gwŷs a ysgrifennwyd yn enw'r brenin ac a seliwyd â'r sêl frenhinol.”

9. Yna, ar y trydydd dydd ar hugain o'r trydydd mis, sef Sifan, galwyd ynghyd ysgrifenyddion y brenin. Ysgrifennwyd, yn union fel y gorchmynnodd Mordecai, at yr Iddewon, at bendefigion, rheolwyr a thywysogion y taleithiau o India i Ethiopia, cant dau ddeg a saith o daleithiau, pob talaith yn ei hysgrifen ei hun a phob cenedl yn ei hiaith ei hun, ac at yr Iddewon yn eu hysgrifen a'u hiaith hwythau.

10. Ysgrifennwyd y wŷs yn enw'r Brenin Ahasferus, a'i selio â'r sêl frenhinol. Anfonwyd llythyrau gyda negeswyr yn marchogaeth ar feirch cyflym wedi eu magu yn stablau'r brenin.

11. Ynddynt rhoddodd y brenin hawl i'r Iddewon oedd ym mhob dinas i ymgasglu a'u hamddiffyn eu hunain, ac i ddifa, lladd a dinistrio byddin unrhyw genedl neu dalaith a ymosodai arnynt, a'u plant a'u gwragedd, ac ysbeilio'u heiddo.

12. Yr oeddent i wneud hyn trwy holl daleithiau'r Brenin Ahasferus ar ddiwrnod penodedig, y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, sef Adar.

13. Yr oedd copi o'r wŷs i'w anfon yn gyfraith i bob talaith, a'i ddangos i'r holl bobloedd, fel y byddai'r Iddewon yn barod y diwrnod hwnnw i ddial ar eu gelynion.

14. Felly aeth y negeswyr allan yn ddiymdroi, yn marchogaeth ar feirch cyflym y brenin; yr oeddent yn mynd ar frys ar orchymyn y brenin. Cyhoeddwyd y wŷs hefyd yn Susan y brifddinas.

15. Yna aeth Mordecai allan o ŵydd y brenin mewn gwisg frenhinol o las a gwyn, a chyda choron fawr o aur, a mantell o liain main a phorffor; ac yr oedd dinas Susan yn orfoleddus.

16. Daeth goleuni, llawenydd, hapusrwydd ac anrhydedd i ran yr Iddewon.

17. Ym mhob talaith a dinas lle daeth gair a gorchymyn y brenin, yr oedd yr Iddewon yn gwledda ac yn cadw gŵyl yn llawen a hapus. Ac yr oedd llawer o bobl y wlad yn honni mai Iddewon oeddent, am fod arnynt ofn yr Iddewon.