Hen Destament

Testament Newydd

Esther 6:3-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Dywedodd y brenin, “Pa glod ac anrhydedd a gafodd Mordecai am hyn?” Atebodd y llanciau oedd yn gweini ar y brenin nad oedd wedi derbyn dim.

4. Gofynnodd y brenin, “Pwy sydd yn y cyntedd?” Yr oedd Haman newydd ddod i gyntedd allanol tŷ'r brenin i ddweud wrtho am grogi Mordecai ar y crocbren yr oedd wedi ei baratoi ar ei gyfer.

5. Dywedodd gweision y brenin wrtho, “Haman sy'n sefyll yn y cyntedd.” A galwodd y brenin ar Haman i ddod i mewn.

6. Daeth Haman ymlaen, ac meddai'r brenin wrtho, “Beth ddylid ei wneud i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu?” Ac meddai Haman wrtho'i hun, “Pwy fyddai'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu yn fwy na mi?”

7. Dywedodd wrth y brenin, “I'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu,

8. dylid dod â gwisg frenhinol a wisgir gan y brenin, a cheffyl y marchoga'r brenin arno, un y mae arfbais y brenin ar ei dalcen.

9. Rhodder y wisg a'r ceffyl i un o dywysogion pwysicaf y brenin, a gwisged yntau'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu, a'i arwain trwy sgwâr y ddinas ar gefn y ceffyl, a chyhoeddi o'i flaen fel hyn: ‘Dyma sy'n digwydd i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu.’ ”

10. Yna dywedodd y brenin wrth Haman, “Dos ar frys i gael y wisg a'r ceffyl fel y dywedaist, a gwna hyn i Mordecai yr Iddew, sy'n eistedd ym mhorth y brenin. Gofala wneud popeth a ddywedaist.”

11. Felly cymerodd Haman y wisg a'r ceffyl; gwisgodd Mordecai a'i arwain ar gefn y ceffyl trwy sgwâr y ddinas, a chyhoeddi o'i flaen: “Dyma sy'n digwydd i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu.”

Darllenwch bennod gyflawn Esther 6