Hen Destament

Testament Newydd

Esther 6:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y noson honno yr oedd y brenin yn methu cysgu, a gorchmynnodd iddynt ddod â llyfr y cofiadur, sef y cronicl, ac fe'i darllenwyd iddo.

2. Ynddo cofnodwyd yr hyn a ddywedodd Mordecai am Bigthana a Theres, dau eunuch y brenin oedd yn gofalu am y porth ac oedd wedi cynllwyn i ymosod ar y brenin.

3. Dywedodd y brenin, “Pa glod ac anrhydedd a gafodd Mordecai am hyn?” Atebodd y llanciau oedd yn gweini ar y brenin nad oedd wedi derbyn dim.

4. Gofynnodd y brenin, “Pwy sydd yn y cyntedd?” Yr oedd Haman newydd ddod i gyntedd allanol tŷ'r brenin i ddweud wrtho am grogi Mordecai ar y crocbren yr oedd wedi ei baratoi ar ei gyfer.

Darllenwch bennod gyflawn Esther 6