Hen Destament

Testament Newydd

Esther 5:6-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Wrth iddynt yfed gwin, dywedodd y brenin wrth Esther, “Fe gei di beth bynnag y gofynni amdano. Gwneir beth bynnag a fynni, hyd hanner y deyrnas.”

7. Atebodd Esther, “Dyma fy nghais a'm dymuniad:

8. os cefais ffafr yng ngolwg y brenin, ac os gwêl ef yn dda roi fy neisyfiad a gwneud fy nymuniad, bydded i'r brenin a Haman ddod i'r wledd yr wyf fi am ei pharatoi iddynt; yna yfory gwnaf fel y mae'r brenin yn dweud.”

9. Y diwrnod hwnnw aeth Haman allan yn llawen a hapus. Ond pan welodd ef Mordecai ym mhorth y brenin, ac yntau'n gwrthod codi na dangos parch tuag ato, gwylltiodd yn enbyd ag ef;

10. ond ymataliodd, ac aeth adref. Yna galwodd ar ei gyfeillion, a'i wraig Seres,

11. ac adroddodd wrthynt am ei olud mawr, am nifer ei feibion, ac am y modd y dyrchafodd y brenin ef trwy ei osod uwchlaw'r tywysogion a'r gweision.

12. Ac ychwanegodd, “Ni wahoddodd y Frenhines Esther neb ond myfi i fynd gyda'r brenin i'r wledd a wnaeth; ac fe'm gwahoddodd i fynd ati yfory eto gyda'r brenin.

13. Ond nid yw hyn oll yn rhoi unrhyw foddhad i mi tra gwelaf Mordecai yr Iddew yn eistedd ym mhorth y brenin.”

14. Dywedodd Seres ei wraig a phob un o'i gyfeillion wrtho, “Gwneler crocbren hanner can cufydd o uchder, ac yn y bore dywed wrth y brenin am grogi Mordecai arno. Yna dos yn llawen i'r wledd gyda'r brenin.” Yr oedd hyn wrth fodd Haman, ac fe wnaeth y crocbren.

Darllenwch bennod gyflawn Esther 5