Hen Destament

Testament Newydd

Esther 3:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Pan welodd Haman nad oedd Mordecai am ymostwng nac ymgrymu iddo, gwylltiodd yn enbyd.

6. Wedi clywed i ba genedl yr oedd Mordecai yn perthyn, nid oedd yn fodlon ymosod ar Mordecai yn unig, ond yr oedd yn awyddus i ddifa cenedl Mordecai, sef yr holl Iddewon yn nheyrnas Ahasferus.

7. Yn neuddegfed flwyddyn y Brenin Ahasferus, yn y mis cyntaf, sef Nisan, bwriasant Pwr (hynny yw, coelbren) o flaen Haman i ddewis dydd a mis, ac fe syrthiodd y coelbren ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, sef Adar.

8. Dywedodd Haman wrth y Brenin Ahasferus, “Y mae yna genedl, wedi ei chwalu a'i gwasgaru ymhlith y bobloedd yn holl daleithiau dy deyrnas, sy'n ei chadw ei hun ar wahân. Y mae eu cyfreithiau'n wahanol i rai pawb arall, ac nid ydynt yn cadw cyfreithiau'r brenin; nid yw er lles y brenin eu goddef.

9. Os cydsynia'r brenin i orchymyn eu difa, yna fe dalaf fi ddeng mil o dalentau arian i'r trysordy brenhinol ar gyfer y rhai sy'n gwneud hyn.”

Darllenwch bennod gyflawn Esther 3