Hen Destament

Testament Newydd

Esther 2:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi'r pethau hyn, pan liniarodd llid y Brenin Ahasferus, fe gofiodd am Fasti a'r hyn a wnaeth, ac am yr hyn a ddyfarnwyd amdani.

2. Dywedodd y llanciau oedd yn gweini ar y brenin, “Chwilier am wyryfon ifainc hardd i'r brenin.

3. Bydded i'r brenin ethol swyddogion ym mhob talaith o'i deyrnas i gasglu pob gwyryf ifanc hardd i Susan y brifddinas; yna rhodder hwy yn nhÅ·'r gwragedd o dan ofal Hegai, eunuch y brenin sy'n gofalu am y gwragedd, a rhodder iddynt eu hoffer coluro.

4. Bydded i'r ferch sy'n ennill ffafr y brenin ddod i'r orsedd yn lle Fasti.” Yr oedd y syniad yn dderbyniol gan y brenin, ac fe wnaeth felly.

Darllenwch bennod gyflawn Esther 2