9. Gwnaeth y Frenhines Fasti hefyd wledd i'r gwragedd ym mhalas y Brenin Ahasferus.
10. Ar y seithfed dydd, pan oedd y Brenin Ahasferus yn llawen gan win, rhoddodd orchymyn i Mehuman, Bistha, Harbona, Bigtha, Abagtha, Sethar a Carcas, y saith eunuch oedd yn gweini arno,
11. i ddod â'r Frenhines Fasti ato yn gwisgo ei choron frenhinol, er mwyn dangos ei phrydferthwch i'r bobl a'r tywysogion, oherwydd yr oedd yn brydferth iawn.
12. Ond gwrthododd y Frenhines Fasti ddod ar orchymyn y brenin trwy'r eunuchiaid. Felly gwylltiodd y brenin yn ddirfawr a chyneuodd ei lid.
13. Gan mai arfer y brenin oedd troi at y rhai oedd yn deall cyfraith a barn, fe ymgynghorodd â'r doethion oedd yn deall y gyfraith.
14. Ei gynghorwyr mwyaf blaenllaw oedd Carsena, Sethar, Admatha, Tarsis, Meres, Marsena a Memuchan, saith dywysog Persia a Media; hwy oedd agosaf at y brenin, a'r dynion mwyaf blaenllaw yn y deyrnas.
15. Gofynnodd iddynt, “Beth, yn ôl y gyfraith, sydd i'w wneud â'r Frenhines Fasti am iddi anufuddhau i orchymyn y Brenin Ahasferus trwy'r eunuchiaid?”
16. Atebodd Memuchan yng ngŵydd y brenin a'r tywysogion, “Nid â'r Brenin Ahasferus yn unig y mae'r Frenhines Fasti wedi gwneud cam, ond â'r holl dywysogion a'r bobl ym mhob un o daleithiau'r brenin.
17. Oherwydd daw pob gwraig i wybod am yr hyn a wnaeth y frenhines, ac o ganlyniad fe ddirmygant eu gwŷr a dweud, ‘Gorchmynnodd y Brenin Ahasferus ddod â'r Frenhines Fasti ato, ond ni ddaeth hi.’
18. Heddiw bydd tywysogesau Persia a Media, sydd wedi clywed am weithred y frenhines, yn rhoi yr un ateb i holl dywysogion y brenin, ac yna bydd dirmyg a dicter diddiwedd.
19. Gyda chydsyniad y brenin, gwneler datganiad brenhinol, a'i ysgrifennu yn neddfau'r Persiaid a'r Mediaid fel na chaiff ei newid, nad yw Fasti i ddod mwyach i ŵydd y Brenin Ahasferus; a rhodded y brenin ei swydd frenhinol hi i un arall sy'n rhagori arni.
20. Pan glywir trwy'r holl deyrnas, er mor fawr ydyw, y gorchymyn a wnaeth y brenin, bydd pob gwraig, o'r leiaf hyd y fwyaf, yn parchu ei gŵr.”
21. Yr oedd cyngor Memuchan yn dderbyniol gan y brenin a'r tywysogion, a gwnaeth y brenin fel yr awgrymodd.
22. Anfonwyd llythyrau i holl daleithiau'r brenin, i bob talaith yn ei hysgrifen ei hun a phob cenedl yn ei hiaith ei hun, er mwyn sicrhau bod pob dyn, beth bynnag ei iaith, yn feistr ar ei dŷ ei hun.