Hen Destament

Testament Newydd

Esra 8:27-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. ac ugain o flychau aur gwerth mil o ddariciau, a dau lestr o bres melyn coeth, mor werthfawr ag aur.

28. A dywedais wrthynt, “Yr ydych chwi a'r llestri yn gysegredig i'r ARGLWYDD, ac offrwm gwirfoddol i ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid yw'r arian a'r aur.

29. Gwyliwch drostynt a'u cadw nes eu trosglwyddo i ystafelloedd tŷ'r ARGLWYDD yng ngŵydd penaethiaid yr offeiriaid a'r Lefiaid a phennau-teuluoedd Israel sydd yn Jerwsalem.”

30. Yna cymerodd yr offeiriaid a'r Lefiaid y swm o arian ac aur a'r llestri i'w dwyn i Jerwsalem i dŷ ein Duw.

31. Ar y deuddegfed dydd o'r mis cyntaf cychwynasom o afon Ahafa i fynd i Jerwsalem, ac yr oedd ein Duw gyda ni, ac fe'n gwaredodd o law gelynion a lladron pen-ffordd.

32. Wedi cyrraedd Jerwsalem cawsom orffwys am dridiau.

33. Ac ar y pedwerydd dydd trosglwyddwyd yr arian a'r aur a'r llestri yn nhŷ ein Duw i ofal Meremoth fab Ureia, yr offeiriad, ac Eleasar fab Phinees, ac yr oedd Josabad fab Jesua a Noadeia fab Binnui, y Lefiaid, gyda hwy.

34. Gwnaed cyfrif o bopeth wrth ei drosglwyddo, a'r un pryd gwnaed rhestr o'r rhoddion.

35. Offrymodd y rhai a ddychwelodd o'r gaethglud boethoffrymau i Dduw Israel: deuddeg bustach dros holl Israel, naw deg a chwech o hyrddod, saith deg a saith o ŵyn, a deuddeg bwch yn aberth dros bechod; yr oedd y cwbl yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 8