1. Dyma restr, gyda'r achau, o'r pennau-teuluoedd a ddaeth gyda mi o Fabilon yn nheyrnasiad y Brenin Artaxerxes.
2. O deulu Phinees, Gersom; o deulu Ithamar, Daniel; o deulu Dafydd, Hattus fab Sechaneia;
3. o deulu Pharos, Sechareia, a chant a hanner o ddynion wedi eu rhestru gydag ef.
4. O deulu Pahath-moab, Elihoenai fab Seraheia, a dau gant o ddynion gydag ef.
5. O deulu Sattu, Sechaneia fab Jahasiel, a thri chant o ddynion gydag ef.
6. O deulu Adin, Ebed fab Jonathan, a hanner cant o ddynion gydag ef.
7. O deulu Elam, Eseia fab Athaleia, a saith deg o ddynion gydag ef.
8. O deulu Seffateia, Sebadeia fab Michael, ac wyth deg o ddynion gydag ef.
9. O deulu Joab, Obadeia fab Jehiel, a dau gant a deunaw o ddynion gydag ef.
10. O deulu Bani, Selomith fab Josiffeia, a chant chwe deg o ddynion gydag ef.
11. O deulu Bebai, Sechareia fab Bebai, a dau ddeg ac wyth o ddynion gydag ef.
12. O deulu Asgad, Johanan fab Haccatan, a chant a deg o ddynion gydag ef.
13. Ac yn olaf, o deulu Adonicam, y rhai canlynol: Eliffelet, Jehiel a Semeia, a chwe deg o ddynion gyda hwy;
14. ac o deulu Bigfai, Uthai a Sabbud, a saith deg o ddynion gyda hwy.
15. Cesglais hwy ynghyd wrth yr afon sy'n llifo i afon Ahafa a gwersyllu yno dridiau. Wedi bwrw golwg dros y bobl a'r offeiriaid, cefais nad oedd Lefiad yn eu plith.