Hen Destament

Testament Newydd

Esra 6:13-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Yna gwnaeth Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr yn union fel yr oedd y Brenin Dareius wedi gorchymyn.

14. Trwy gymorth proffwydoliaeth Haggai'r proffwyd a Sechareia fab Ido, llwyddodd henuriaid yr Iddewon gyda'r adeiladu, a'i orffen yn ôl gorchymyn Duw Israel a gorchymyn Cyrus a Dareius ac Artaxerxes brenin Persia.

15. Gorffennwyd y tŷ hwn ar y trydydd o fis Adar, yn y chweched flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Dareius.

16. A chysegrwyd tŷ Dduw mewn llawenydd gan yr Israeliaid, yr offeiriaid a'r Lefiaid a gweddill y rhai oedd wedi bod yn y gaethglud.

17. Wrth gysegru tŷ Dduw, aberthwyd cant o deirw, dau gant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddeg bwch gafr, yn ôl nifer llwythau Israel, yn aberth dros bechod ar ran holl Israel.

18. Trefnwyd yr offeiriaid yn eu dosbarthiadau a'r Lefiaid yn eu hadrannau ar gyfer gwasanaethu Duw yn Jerwsalem, fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr Moses.

19. Ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf cadwodd y rhai oedd wedi bod yn y gaethglud y Pasg.

20. Am fod pob un o'r offeiriaid a'r Lefiaid wedi ei buro'i hun, a'u bod i gyd yn bur, aberthwyd y Pasg ar gyfer pawb a ddaeth o'r gaethglud, a'u cyd-offeiriaid a hwy eu hunain.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 6