Hen Destament

Testament Newydd

Esra 6:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna, ar orchymyn y Brenin Dareius, chwiliwyd yn yr archifau ym Mabilon lle cedwid y dogfennau.

2. Ac ym mhalas Ecbatana yn nhalaith Media cafwyd sgrôl, a dyma'r cofnod oedd wedi ei ysgrifennu arni:

3. “Ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad gorchmynnodd y Brenin Cyrus fel hyn am dŷ Dduw yn Jerwsalem: Ailadeilader y tŷ yn lle i aberthu ac i ddwyn poethoffrymau.

4. Ei uchder fydd trigain cufydd a'i led trigain cufydd, gyda thair rhes o gerrig mawr ac un rhes o goed newydd; taler y gost o'r drysorfa frenhinol.

5. Hefyd, dychweler i'r deml yn Jerwsalem lestri aur ac arian tŷ Dduw, a ddygodd Nebuchadnesar o'r deml yn Jerwsalem a'u cludo i Fabilon; dychweler pob un i'w le priodol yn nhŷ Dduw.”

6. A dyfarniad y Brenin Dareius oedd: “Yn awr, Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'ch cefnogwyr, penaethiaid Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, cadwch draw oddi yno;

7. peidiwch ag ymyrryd â gwaith tŷ Dduw; gadewch i bennaeth yr Iddewon a'u henuriaid ailgodi tŷ Dduw ar ei hen safle.

8. Ar fy ngorchymyn i, fel hyn yr ydych i gydweithredu â henuriaid yr Iddewon i ailadeiladu tŷ Dduw: taler yn llawn ac yn ddiymdroi i'r dynion hyn dreth talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates allan o'r drysorfa frenhinol.

9. Rhodder iddynt bob dydd yn ddi-feth beth bynnag sy'n angenrheidiol i aberthu i Dduw'r nefoedd—teirw, hyrddod, defaid, gwenith, halen, gwin ac olew—

10. yn ôl gofynion yr offeiriaid yn Jerwsalem, fel y dygont ebyrth cymeradwy i Dduw'r nefoedd a gweddïo dros y brenin a'i feibion.

11. Ac yr wyf yn gorchymyn, os bydd i unrhyw un ymyrryd â'r datganiad hwn, fod trawst i'w dynnu o'i dŷ a'i godi, a'i fod yntau i'w grogi arno, a bod ei gartref i'w droi'n domen.

12. A bydded i'r Duw sydd wedi gosod ei enw yno ddymchwel pob brenin a chenedl sy'n beiddio ymyrryd â hyn neu'n dinistrio tŷ'r Duw hwn yn Jerwsalem. Myfi, Dareius, sy'n rhoi'r gorchymyn hwn; rhaid ei gadw'n fanwl.”

13. Yna gwnaeth Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr yn union fel yr oedd y Brenin Dareius wedi gorchymyn.

14. Trwy gymorth proffwydoliaeth Haggai'r proffwyd a Sechareia fab Ido, llwyddodd henuriaid yr Iddewon gyda'r adeiladu, a'i orffen yn ôl gorchymyn Duw Israel a gorchymyn Cyrus a Dareius ac Artaxerxes brenin Persia.

15. Gorffennwyd y tŷ hwn ar y trydydd o fis Adar, yn y chweched flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Dareius.

16. A chysegrwyd tŷ Dduw mewn llawenydd gan yr Israeliaid, yr offeiriaid a'r Lefiaid a gweddill y rhai oedd wedi bod yn y gaethglud.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 6