8. Bydded hysbys i'r brenin i ni fynd i dalaith Jwda, a gweld tŷ'r Duw mawr yn cael ei adeiladu â cherrig enfawr, gyda choed yn y muriau; y mae'r gwaith yn mynd rhagddo ac yn llwyddo dan ofal henuriaid yr Iddewon.
9. Yna gofynasom i'r henuriaid, ‘Pwy a roes ganiatâd i chwi ailadeiladu'r tŷ hwn a gorffen ei goedio?’
10. Gofynasom hefyd iddynt am eu henwau fel y medrem gofnodi enwau eu harweinwyr a rhoi gwybod i ti.
11. A dyma'r ateb a gawsom: ‘Gweision Duw nef a daear ydym ni, ac yr ydym yn ailadeiladu tŷ a godwyd lawer o flynyddoedd yn ôl; un o frenhinoedd enwog Israel a'i cododd a'i orffen.
12. Ond am i'n hynafiaid ddigio Duw'r nefoedd, rhoddodd ef hwy i Nebuchadnesar y Caldead, brenin Babilon; dinistriodd yntau'r tŷ hwn a chaethgludo'r bobl i Fabilon.
13. Ond ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, rhoes Cyrus brenin Babilon orchymyn i ailadeiladu'r tŷ hwn.
14. Yr oedd llestri aur ac arian yn perthyn i dŷ Dduw; dygodd Nebuchadnesar hwy o'r deml yn Jerwsalem a'u rhoi yn nheml Babilon, ond cymerodd y Brenin Cyrus hwy o'r deml ym Mabilon a'u rhoi i ŵr o'r enw Sesbassar, a oedd wedi ei benodi'n llywodraethwr.
15. Dywedodd wrtho, “Cymer y llestri yma, a dos â hwy i'r deml sydd yn Jerwsalem, a bydded i dŷ Dduw gael ei adeiladu ar ei hen safle.”
16. Yna daeth Sesbassar a gosod sylfeini tŷ Dduw yn Jerwsalem; a bu adeiladu o'r amser hwnnw hyd yn awr, ond nid yw wedi ei orffen.’
17. Felly, os cytuna'r brenin, chwilier yn yr archifau brenhinol ym Mabilon i weld a roes y Brenin Cyrus orchymyn i ailadeiladu'r deml hon yn Jerwsalem. Anfoner i ni ddyfarniad y brenin ynglŷn â'r mater.”