Hen Destament

Testament Newydd

Esra 4:4-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Yna dechreuodd pobl y wlad ddigalonni pobl Jwda a pheri iddynt ofni adeiladu;

5. a holl ddyddiau Cyrus brenin Persia hyd at deyrnasiad Dareius brenin Persia cyflogasant gynghorwyr llys yn eu herbyn i ddrysu eu bwriad.

6. Yn nechrau teyrnasiad Ahasferus gwnaethant gyhuddiad ysgrifenedig yn erbyn preswylwyr Jwda a Jerwsalem.

7. Hefyd yn amser Artaxerxes ysgrifennodd Bislam, Mithredath, Tabeel a'r gweddill o'u cefnogwyr at Artaxerxes brenin Persia; yr oedd y llythyr wedi ei ysgrifennu mewn Aramaeg, a dyma'i gynnwys mewn Aramaeg.

8. Rehum y rhaglaw a Simsai yr ysgrifennydd a ysgrifennodd y llythyr hwn at Artaxerxes y brenin ynglŷn â Jerwsalem:

9. “Oddi wrth y rhaglaw Rehum a'r ysgrifennydd Simsai a'r gweddill o'u cefnogwyr, y barnwyr, y penaethiaid, y goruchwylwyr, y swyddogion; hefyd pobl Erech a Babilon, a'r Elamitiaid o Susa,

10. a phawb arall a alltudiodd Asnappar fawr ac enwog a'u gosod yn nhref Samaria ac yng ngweddill talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates.”

11. Yn awr dyma gynnwys y llythyr a anfonasant ato: “I'r Brenin Artaxerxes oddi wrth dy ddeiliaid, pobl talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates.

12. Bydded hysbys i'r brenin fod yr Iddewon a ddaeth atom oddi wrthyt wedi cyrraedd Jerwsalem; y maent yn ailgodi'r ddinas wrthryfelgar a drwg, yn cyfannu'r muriau ac yn atgyweirio'r sylfeini.

13. Yn awr bydded hysbys i'r brenin, os ailadeiledir y ddinas hon a gorffen ei muriau, ni thalant na threth, na theyrnged, na tholl; a bydd hyn yn sicr o amharu ar les y brenin.

14. Felly, am ein bod ni yn cael ein cynnal gan lys y brenin, ac am nad yw'n weddus i ni fod yn dystion o'r amarch hwn tuag at y brenin, yr ydym yn anfon gair at y brenin,

15. er mwyn iti chwilio yn llyfr cofnodion dy ragflaenwyr. Fe weli oddi wrth lyfr y cofnodion mai dinas wrthryfelgar fu hon, andwyol i frenhinoedd a thaleithiau, a bod gwrthryfel yn nodwedd arni ers amser maith. Dyna pam y dinistriwyd y ddinas.

16. Yr ydym yn hysbysu'r brenin, os adeiledir y ddinas hon a gorffen ei muriau, ni fydd gennyt diriogaeth yn nhalaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates.”

Darllenwch bennod gyflawn Esra 4