Hen Destament

Testament Newydd

Esra 4:18-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Fe gyfieithwyd y llythyr a anfonasoch a'i ddarllen yn fy ngŵydd.

19. Ar fy ngorchymyn gwnaethpwyd ymchwiliad, a darganfod i'r ddinas hon wrthryfela yn erbyn brenhinoedd ers amser maith, a bod brad a gwrthryfel wedi codi ynddi.

20. Bu brenhinoedd cryfion yn teyrnasu dros Jerwsalem a thros holl dalaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a rhoddwyd iddynt dreth, teyrnged a tholl.

21. Felly gorchmynnwch i'r dynion hyn beidio ag ailadeiladu'r ddinas nes cael caniatâd gennyf fi.

22. Gofalwch beidio â bod yn esgeulus yn hyn o beth, rhag i'r frenhiniaeth gael niwed pellach.”

23. Yna, pan ddarllenwyd copi o lythyr Artaxerxes i Rehum a Simsai yr ysgrifennydd a'u cefnogwyr, aethant ar frys at yr Iddewon yn Jerwsalem a thrwy nerth braich eu rhwystro rhag gweithio.

24. Felly yr ataliwyd y gwaith ar dŷ Dduw yn Jerwsalem; a bu'n sefyll hyd ail flwyddyn teyrnasiad Dareius brenin Persia.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 4