Hen Destament

Testament Newydd

Esra 4:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan glywodd gelynion Jwda a Benjamin fod y rhai oedd wedi bod yn y gaethglud yn adeiladu teml i ARGLWYDD Dduw Israel,

2. daethant at Sorobabel a'r pennau-teuluoedd a dweud wrthynt: “Gadewch i ni adeiladu gyda chwi, oherwydd yr ydym ni yn addoli eich Duw fel chwithau, ac iddo ef yr ydym wedi aberthu er amser Esarhadon brenin Asyria, a ddaeth â ni yma.”

3. Ond dywedodd Sorobabel a Jesua a gweddill pennau-teuluoedd Israel: “Ni chewch chwi ran yn y gwaith o adeiladu tŷ i'n Duw; ni yn unig sydd i adeiladu i ARGLWYDD Dduw Israel, fel y gorchmynnodd Cyrus brenin Persia i ni.”

Darllenwch bennod gyflawn Esra 4