Esra 3:11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Yr oeddent yn ateb ei gilydd mewn mawl a diolch i'r ARGLWYDD: “Y mae ef yn dda, a'i gariad at Israel yn parhau byth.” Yna bloeddiodd yr holl bobl yn uchel mewn moliant i'r ARGLWYDD am fod sylfaen tŷ'r ARGLWYDD wedi ei gosod.