57. Seffateia, Hattil, Pochereth o Sebaim, ac Ami.
58. Cyfanswm gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon oedd tri chant naw deg a dau.
59. Daeth y rhai canlynol i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adan ac Immer, ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras:
60. teuluoedd Delaia, Tobeia, a Necoda, chwe chant pum deg a dau.
61. Ac o blith yr offeiriaid: teuluoedd Hobaia, Cos, a'r Barsilai a briododd un o ferched Barsilai o Gilead a chymryd ei enw.
62. Chwiliodd y rhain am gofnod o'u hachau, ond methu ei gael; felly cawsant eu hatal o'r offeiriadaeth,
63. a gwaharddodd y llywodraethwr iddynt fwyta'r pethau mwyaf cysegredig nes y ceid offeiriad i ymgynghori â'r Wrim a'r Twmim.
64. Nifer y fintai gyfan oedd pedwar deg a dwy o filoedd tri chant chwe deg,
65. heblaw eu gweision a'u morynion, oedd yn saith mil tri chant tri deg a saith. Yr oedd ganddynt hefyd ddau gant o gantorion a chantoresau.
66. Yr oedd ganddynt saith gant tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump o fulod,
67. pedwar cant tri deg a phump o gamelod, a chwe mil saith gant dau ddeg o asynnod.
68. Pan ddaethant i dŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem, ymrwymodd rhai o'r pennau-teuluoedd o'u gwirfodd i ailgodi tŷ Dduw ar ei hen sylfaen yn ôl eu gallu.