Hen Destament

Testament Newydd

Esra 2:4-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. teulu Seffateia, tri chant saith deg a dau;

5. teulu Ara, saith gant saith deg a phump;

6. teulu Pahath-moab, hynny yw teuluoedd Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg;

7. teulu Elam, mil dau gant pum deg a phedwar;

8. teulu Sattu, naw cant pedwar deg a phump;

9. teulu Saccai, saith gant chwe deg;

10. teulu Bani, chwe chant pedwar deg a dau;

11. teulu Bebai, chwe chant dau ddeg a thri;

12. teulu Asgad, mil dau gant dau ddeg a dau;

13. teulu Adonicam, chwe chant chwe deg a chwech;

14. teulu Bigfai, dwy fil pum deg a chwech;

15. teulu Adin, pedwar cant pum deg a phedwar;

16. teulu Ater, hynny yw Heseceia, naw deg ac wyth;

17. teulu Besai, tri chant dau ddeg a thri;

18. teulu Jora, cant a deuddeg;

19. teulu Hasum, dau gant dau ddeg a thri;

20. teulu Gibbar, naw deg a phump;

21. teulu Bethlehem, cant dau ddeg a thri.

22. Gwŷr Netoffa, pum deg a chwech;

23. gwŷr Anathoth, cant dau ddeg ac wyth.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 2