Hen Destament

Testament Newydd

Esra 10:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Tra oedd Esra'n gweddïo yn ei ddagrau, yn cyffesu ar ei hyd o flaen tŷ Dduw, ymgasglodd tyrfa fawr iawn o Israeliaid ato, yn wŷr, gwragedd a phlant, ac yr oedd y bobl yn wylo'n hidl.

2. Yna dywedodd Sechaneia fab Jehiel, o deulu Elam, wrth Esra, “Yr ydym wedi troseddu yn erbyn ein Duw trwy briodi merched estron o blith pobloedd y wlad; eto y mae gobaith i Israel er gwaethaf hyn.

3. Yn awr gadewch i ni wneud cyfamod â'n Duw i droi ymaith yr holl ferched hyn a'u plant, yn ôl cyngor f'arglwydd a'r rhai sy'n parchu gorchymyn ein Duw; a byddwn felly'n cadw'r gyfraith.

4. Cod, oherwydd dy gyfrifoldeb di yw hyn, ond fe fyddwn ni gyda thi; gweithreda'n wrol.”

5. Yna cododd Esra a pheri i arweinwyr yr offeiriaid a'r Lefiaid ac i holl Israel addo hyn, a gwnaethant hwythau addewid.

6. Aeth Esra o dŷ'r Arglwydd i ystafell Johanan fab Eliasib, ac aros yno heb fwyta bara nac yfed dŵr am ei fod yn dal i alaru am gamwedd y rhai a ddaeth o'r gaethglud.

7. Yna anfonwyd neges trwy Jwda a Jerwsalem yn gorchymyn i bawb a fu yn y gaethglud ymgynnull yn Jerwsalem,

8. a byddai pob un na ddôi o fewn tridiau ar wŷs y penaethiaid a'r henuriaid yn colli ei gyfoeth ac yn cael ei dorri allan o gynulleidfa'r gaethglud.

9. O fewn tridiau, ar yr ugeinfed dydd o'r nawfed mis, ymgasglodd holl wŷr Jwda a Benjamin i Jerwsalem, ac eisteddodd pawb yn y sgwâr o flaen tŷ Dduw yn crynu o achos yr hyn oedd yn digwydd ac o achos y glawogydd.

10. Cododd Esra yr offeiriad a dweud wrthynt, “Yr ydych wedi gwneud camwedd ac wedi ychwanegu at euogrwydd Israel trwy briodi merched estron.

11. Yn awr cyffeswch gerbron ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid; gwnewch ei ewyllys ef ac ymwahanwch oddi wrth bobloedd y wlad a'r merched estron.”

12. Atebodd yr holl gynulleidfa â llais uchel, “Gwnawn; rhaid i ni wneud fel yr wyt ti'n gorchymyn.

13. Ond y mae yma lawer o bobl; y mae'n dymor y glawogydd, ac ni allwn aros yn yr awyr agored. Nid gwaith diwrnod neu ddau ydyw, oherwydd y mae llawer ohonom wedi pechu yn hyn o beth.

14. Caiff ein penaethiaid gynrychioli'r gynulleidfa gyfan, a bydded i'r rhai yn ein dinasoedd sydd wedi priodi merched estron ddod ar amseroedd penodedig, pob un gyda henuriaid a barnwyr ei ddinas ei hun, nes i ddicter mawr ein Duw am hyn droi oddi wrthym.”

Darllenwch bennod gyflawn Esra 10