1. Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, er mwyn cyflawni gair yr ARGLWYDD a ddaeth trwy Jeremeia, cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd Cyrus, a chyhoeddodd ddatganiad trwy ei holl deyrnas ac ysgrifennu:
2. “Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia: Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, wedi rhoi holl deyrnasoedd y byd i mi, ac wedi gorchymyn i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem yn Jwda.
3. Pob un o'ch plith sy'n perthyn i'w bobl, bydded ei Dduw gydag ef, ac aed i fyny i Jerwsalem yn Jwda i ailadeiladu tŷ ARGLWYDD Dduw Israel, y Duw sydd yn Jerwsalem.
4. Pob un a arbedwyd, ple bynnag y mae'n byw, bydded iddo gael cymorth gan ei gymdogion mewn arian ac aur ac offer ac anifeiliaid, yn ogystal ag offrwm gwirfoddol i dŷ Dduw yn Jerwsalem.”
5. Yna dechreuodd pennau-teuluoedd Jwda a Benjamin, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, pob un a symbylwyd gan Dduw, baratoi i fynd i ailadeiladu tŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.
6. Cawsant gefnogaeth eu holl gymdogion gyda llestri arian ac aur, ac offer ac anifeiliaid ac anrhegion gwerthfawr, at y cwbl a roed yn wirfoddol.
7. Cyflwynodd y Brenin Cyrus lestri tŷ'r ARGLWYDD a ddygwyd gan Nebuchadnesar o Jerwsalem i'w gosod yn nheml ei dduwiau, a rhoddodd hwy i Mithredath y trysorydd;
8. rhestrodd yntau hwy ar gyfer Sesbassar, llywodraethwr Jwda.