9. Gostyngir yr holl bobl—Effraim a thrigolion Samaria—sy'n dweud mewn balchder a thraha,
10. “Syrthiodd y priddfeini,ond fe adeiladwn ni â cherrig nadd;torrwyd y prennau sycamor,ond fe rown ni gedrwydd yn eu lle.”
11. Y mae'r ARGLWYDD yn codi gwrthwynebwyr yn eu herbyn;y mae'n cyffroi eu gelynion.
12. Y mae Syriaid o'r dwyrain a Philistiaid o'r gorllewinyn ysu Israel a'u safnau'n agored.Er hynny ni throdd ei lid ef,ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
13. Ond ni throdd y bobl at yr un a'u trawodd,na cheisio ARGLWYDD y Lluoedd;
14. am hynny tyr yr ARGLWYDD ymaith o Israel y pen â'r gynffon,y gangen balmwydd a'r frwynen mewn un dydd;
15. yr hynafgwr a'r anrhydeddus yw'r pen,y proffwyd sy'n dysgu celwydd yw'r gynffon.
16. Y rhai sy'n arwain y bobl hynsy'n peri iddynt gyfeiliorni;a'r rhai a arweiniwyd sy'n cael eu drysu.