Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 9:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Anfonodd yr ARGLWYDD air yn erbyn Jacob,ac fe ddisgyn ar Israel.

9. Gostyngir yr holl bobl—Effraim a thrigolion Samaria—sy'n dweud mewn balchder a thraha,

10. “Syrthiodd y priddfeini,ond fe adeiladwn ni â cherrig nadd;torrwyd y prennau sycamor,ond fe rown ni gedrwydd yn eu lle.”

11. Y mae'r ARGLWYDD yn codi gwrthwynebwyr yn eu herbyn;y mae'n cyffroi eu gelynion.

12. Y mae Syriaid o'r dwyrain a Philistiaid o'r gorllewinyn ysu Israel a'u safnau'n agored.Er hynny ni throdd ei lid ef,ac y mae'n dal i estyn allan ei law.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 9