Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 9:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. yr hynafgwr a'r anrhydeddus yw'r pen,y proffwyd sy'n dysgu celwydd yw'r gynffon.

16. Y rhai sy'n arwain y bobl hynsy'n peri iddynt gyfeiliorni;a'r rhai a arweiniwyd sy'n cael eu drysu.

17. Am hynny nid arbed yr ARGLWYDD eu gwŷr ifainc,ac ni thosturia wrth eu hamddifaid na'u gweddwon.Y mae pob un ohonynt yn annuwiol a drygionus,a phob genau yn traethu ynfydrwydd.Er hynny ni throdd ei lid ef,ac y mae'n dal i estyn allan ei law.

18. Oherwydd y mae drygioni yn llosgi fel tân,yn ysu'r mieri a'r drain,yn cynnau yn nrysni'r coed,ac yn codi'n golofnau o fwg.

19. Gan ddigofaint ARGLWYDD y Lluoeddy mae'r wlad ar dân;y mae'r bobl fel tanwydd,ac nid arbedant ei gilydd.

20. Cipia un o'r dde, ond fe newyna;bwyta'r llall o'r chwith, ond nis digonir.Bydd pob un yn bwyta cnawd ei blant—

21. Manasse Effraim, ac Effraim Manasse,ac ill dau yn erbyn Jwda.Er hynny ni throdd ei lid ef,ac y mae'n dal i estyn allan ei law.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 9