Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 9:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ond ni fydd tywyllwch eto i'r sawl a fu mewn cyfyngder. Yn yr amser gynt bu cam-drin ar wlad Sabulon a gwlad Nafftali, ond ar ôl hyn bydd yn anrhydeddu Galilea'r cenhedloedd, ar ffordd y môr, dros yr Iorddonen.

2. Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwcha welodd oleuni mawr;y rhai a fu'n byw mewn gwlad o gaddug dudewa gafodd lewyrch golau.

3. Amlheaist orfoledd iddynt,chwanegaist lawenydd;llawenhânt o'th flaen fel yn adeg y cynhaeaf,ac fel y byddant yn gorfoleddu wrth rannu'r ysbail.

4. Oherwydd drylliaist yr iau oedd yn faich iddynt,a'r croesfar oedd ar eu hysgwydd,a'r ffon oedd gan eu gyrrwr,fel yn nydd Midian.

5. Pob esgid ar droed rhyfelwr mewn ysgarmes,a phob dilledyn wedi ei drybaeddu mewn gwaed,fe'u llosgir fel tanwydd.

6. Canys bachgen a aned i ni,mab a roed i ni,a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.Fe'i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn,Tad bythol, Tywysog heddychlon”.

7. Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth,nac ar ei heddwchi orsedd Dafydd a'i frenhiniaeth,i'w sefydlu'n gadarn â barn a chyfiawnder,o hyn a hyd byth.Bydd sêl ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn.

8. Anfonodd yr ARGLWYDD air yn erbyn Jacob,ac fe ddisgyn ar Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 9