Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 8:9-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Ystyriwch, bobloedd, fe'ch dryllir;gwrandewch, chwi bellafion byd;ymwregyswch, ac fe'ch dryllir;ymwregyswch, ac fe'ch dryllir.

10. Lluniwch gyngor, ac fe'i diddymir;dywedwch air, ac ni saif,Oherwydd y mae Duw gyda ni.

11. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, pan oedd yn gafael yn dynn ynof ac yn fy rhybuddio rhag rhodio yn llwybrau'r bobl hyn:

12. “Peidiwch â dweud ‘Cynllwyn!’am bob peth a elwir yn gynllwyn gan y bobl hyn;a pheidiwch ag ofni'r hyn y maent hwy yn ei ofni,nac arswydo rhagddo.

13. Ond ystyriwch yn sanctaidd ARGLWYDD y Lluoedd;ofnwch ef, ac arswydwch rhagddo ef.

14. Bydd ef yn fagl,ac i ddau dŷ Israel bydd yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr;bydd yn rhwyd ac yn fagl i drigolion Jerwsalem.

15. A bydd llawer yn baglu drostynt;syrthiant, ac fe'u dryllir;cânt eu baglu a'u dal.”

16. Rhwyma'r dystiolaeth,selia'r gyfraith ymhlith fy nisgyblion.

17. Disgwyliaf finnau am yr ARGLWYDD,sy'n cuddio'i wyneb rhag tŷ Jacob;arhosaf yn eiddgar amdano.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 8