7. am hynny, bydd yr ARGLWYDD yn dwyn arnyntddyfroedd yr Ewffrates, yn gryf ac yn fawr,brenin Asyria a'i holl ogoniant.Fe lifa dros ei holl sianelau,a thorri dros ei holl gamlesydd;
8. fe ysguba trwy Jwda fel dilyw,a gorlifo nes cyrraedd at y gwddf.Bydd cysgod ei adenydd yn llenwi holl led dy dir,O Immanuel.”
9. Ystyriwch, bobloedd, fe'ch dryllir;gwrandewch, chwi bellafion byd;ymwregyswch, ac fe'ch dryllir;ymwregyswch, ac fe'ch dryllir.
10. Lluniwch gyngor, ac fe'i diddymir;dywedwch air, ac ni saif,Oherwydd y mae Duw gyda ni.
11. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, pan oedd yn gafael yn dynn ynof ac yn fy rhybuddio rhag rhodio yn llwybrau'r bobl hyn:
12. “Peidiwch â dweud ‘Cynllwyn!’am bob peth a elwir yn gynllwyn gan y bobl hyn;a pheidiwch ag ofni'r hyn y maent hwy yn ei ofni,nac arswydo rhagddo.
13. Ond ystyriwch yn sanctaidd ARGLWYDD y Lluoedd;ofnwch ef, ac arswydwch rhagddo ef.
14. Bydd ef yn fagl,ac i ddau dŷ Israel bydd yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr;bydd yn rhwyd ac yn fagl i drigolion Jerwsalem.
15. A bydd llawer yn baglu drostynt;syrthiant, ac fe'u dryllir;cânt eu baglu a'u dal.”
16. Rhwyma'r dystiolaeth,selia'r gyfraith ymhlith fy nisgyblion.