Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 8:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Bydd ef yn fagl,ac i ddau dŷ Israel bydd yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr;bydd yn rhwyd ac yn fagl i drigolion Jerwsalem.

15. A bydd llawer yn baglu drostynt;syrthiant, ac fe'u dryllir;cânt eu baglu a'u dal.”

16. Rhwyma'r dystiolaeth,selia'r gyfraith ymhlith fy nisgyblion.

17. Disgwyliaf finnau am yr ARGLWYDD,sy'n cuddio'i wyneb rhag tŷ Jacob;arhosaf yn eiddgar amdano.

18. Wele fi a'r meibion a roes yr ARGLWDD i mi yn arwyddion ac yn argoelion yn Israel oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd, sy'n trigo ym Mynydd Seion.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 8