Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 8:12-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. “Peidiwch â dweud ‘Cynllwyn!’am bob peth a elwir yn gynllwyn gan y bobl hyn;a pheidiwch ag ofni'r hyn y maent hwy yn ei ofni,nac arswydo rhagddo.

13. Ond ystyriwch yn sanctaidd ARGLWYDD y Lluoedd;ofnwch ef, ac arswydwch rhagddo ef.

14. Bydd ef yn fagl,ac i ddau dŷ Israel bydd yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr;bydd yn rhwyd ac yn fagl i drigolion Jerwsalem.

15. A bydd llawer yn baglu drostynt;syrthiant, ac fe'u dryllir;cânt eu baglu a'u dal.”

16. Rhwyma'r dystiolaeth,selia'r gyfraith ymhlith fy nisgyblion.

17. Disgwyliaf finnau am yr ARGLWYDD,sy'n cuddio'i wyneb rhag tŷ Jacob;arhosaf yn eiddgar amdano.

18. Wele fi a'r meibion a roes yr ARGLWDD i mi yn arwyddion ac yn argoelion yn Israel oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd, sy'n trigo ym Mynydd Seion.

19. A phan fydd y bobl yn dweud wrthych, “Ewch i ymofyn â'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sisial a sibrwd”, onid yw'r bobl yn ymhél â'r duwiau, ac yn ymofyn â'r meirw dros y byw

20. am gyfarwyddyd a thystiolaeth? Dyma'r gair a ddywedant, ac nid oes oleuni ynddo.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 8