Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 8:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cymer sgrôl fawr ac ysgrifenna arni mewn llythrennau eglur, ‘I Maher-shalal-has-bas’;

2. a galw yn dystion cywir i mi Ureia yr offeiriad a Sechareia fab Jeberecheia.”

3. Yna euthum at y broffwydes; beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Galw ei enw Maher-shalal-has-bas,

4. oherwydd cyn i'r bachgen fedru galw, ‘Fy nhad’ neu ‘Fy mam’, bydd golud Damascus ac ysbail Samaria yn cael eu dwyn ymaith o flaen brenin Asyria.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 8