Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 8:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cymer sgrôl fawr ac ysgrifenna arni mewn llythrennau eglur, ‘I Maher-shalal-has-bas’;

2. a galw yn dystion cywir i mi Ureia yr offeiriad a Sechareia fab Jeberecheia.”

3. Yna euthum at y broffwydes; beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Galw ei enw Maher-shalal-has-bas,

4. oherwydd cyn i'r bachgen fedru galw, ‘Fy nhad’ neu ‘Fy mam’, bydd golud Damascus ac ysbail Samaria yn cael eu dwyn ymaith o flaen brenin Asyria.”

5. Llefarodd yr ARGLWYDD wrthyf drachefn,

6. “Oherwydd i'r bobl hyn wrthoddyfroedd Siloa, sy'n llifo'n dawel,a chrynu gan ofn o flaen Resin a mab Remaleia,

7. am hynny, bydd yr ARGLWYDD yn dwyn arnyntddyfroedd yr Ewffrates, yn gryf ac yn fawr,brenin Asyria a'i holl ogoniant.Fe lifa dros ei holl sianelau,a thorri dros ei holl gamlesydd;

8. fe ysguba trwy Jwda fel dilyw,a gorlifo nes cyrraedd at y gwddf.Bydd cysgod ei adenydd yn llenwi holl led dy dir,O Immanuel.”

9. Ystyriwch, bobloedd, fe'ch dryllir;gwrandewch, chwi bellafion byd;ymwregyswch, ac fe'ch dryllir;ymwregyswch, ac fe'ch dryllir.

10. Lluniwch gyngor, ac fe'i diddymir;dywedwch air, ac ni saif,Oherwydd y mae Duw gyda ni.

11. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, pan oedd yn gafael yn dynn ynof ac yn fy rhybuddio rhag rhodio yn llwybrau'r bobl hyn:

12. “Peidiwch â dweud ‘Cynllwyn!’am bob peth a elwir yn gynllwyn gan y bobl hyn;a pheidiwch ag ofni'r hyn y maent hwy yn ei ofni,nac arswydo rhagddo.

13. Ond ystyriwch yn sanctaidd ARGLWYDD y Lluoedd;ofnwch ef, ac arswydwch rhagddo ef.

14. Bydd ef yn fagl,ac i ddau dŷ Israel bydd yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr;bydd yn rhwyd ac yn fagl i drigolion Jerwsalem.

15. A bydd llawer yn baglu drostynt;syrthiant, ac fe'u dryllir;cânt eu baglu a'u dal.”

16. Rhwyma'r dystiolaeth,selia'r gyfraith ymhlith fy nisgyblion.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 8