Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 66:12-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Edrychwch, rwy'n estyn iddi heddwch fel afon,a golud y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol.Cewch sugno, cewch eich cludo ar ei hystlys,a'ch siglo ar ei gliniau.

13. Fel y cysurir plentyn gan ei fambyddaf fi'n eich cysuro chwi;ac yn Jerwsalem y'ch cysurir.

14. Cewch weld hyn, a bydd yn llawenydd i'ch calon,bydd eich holl gorff yn ffynnu fel llysieuyn;dangosir bod llaw yr ARGLWYDD gyda'i weision,a'i lid yn erbyn ei elynion.

15. Edrychwch, y mae'r ARGLWYDD yn dod â thân,a'i gerbydau fel corwynt,i dalu'r pwyth mewn llid dicllon,ac i geryddu â fflamau tân.

16. Oherwydd trwy dân y bydd yr ARGLWYDD yn barnu,a thrwy gleddyf yn erbyn pob cnawd;a lleddir llawer gan yr ARGLWYDD.

17. “Pawb sy'n ymgysegru ac yn eu puro eu hunain ar gyfer y gerddi, ac yn gorymdeithio trwyddynt, ac yn bwyta cig moch, ymlusgiaid, a llygod—daw diwedd ar eu gwaith a'u bwriad,” medd yr ARGLWYDD.

18. “Rwyf fi'n dod i gasglu ynghyd bob cenedl ac iaith; a dônt i weld fy ngogoniant.

19. Gosodaf arwydd yn eu mysg, ac anfonaf rai o'u gwaredigion at y cenhedloedd, i Tarsis, Put, Lydia, Mesech, Tubal a Jafan, ac ynysoedd pell, na chlywsant sôn amdanaf na gweld fy ngogoniant; a chyhoeddant hwy fy ngogoniant i'r cenhedloedd.

20. Dygant eich tylwyth i gyd o blith yr holl genhedloedd yn fwydoffrwm i'r ARGLWYDD; ar feirch, mewn cerbydau a gwageni, ar fulod a chamelod y dônt i'm mynydd sanctaidd, Jerwsalem,” medd yr ARGLWYDD, “yn union fel y bydd plant Israel yn dwyn y bwydoffrwm mewn llestr glân i dŷ'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 66