Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 65:7-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. eich camweddau chwi a'ch hynafiaid,”medd yr ARGLWYDD.“Am iddynt arogldarthu ar y mynyddoedd,a'm cablu ar y bryniau,mesuraf eu tâl iddynt i'r byw.”

8. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Fel pan geir gwin newydd mewn swp o rawn,ac y dywedir, ‘Paid â'i ddinistrio,oherwydd y mae bendith ynddo’,felly y gwnaf finnau er mwyn fy ngweision;ni ddinistriaf yr un ohonynt.

9. Ond paraf i epil ddod o Jacob,a rhai i etifeddu fy mynyddoedd o Jwda;bydd y rhai a ddewisaf yn eu hetifeddu,a'm gweision yn trigo yno.

10. Bydd Saron yn borfa defaid,a dyffryn Achor yn orweddfa gwartheg,ar gyfer fy mhobl sy'n fy ngheisio.

11. “Ond chwi sy'n gwrthod yr ARGLWYDD,sy'n diystyru fy mynydd sanctaidd,sy'n gosod bwrdd i'r duw Ffawdac yn llenwi cwpanau o win cymysg i Hap,

12. dedfrydaf chwi i'r cleddyf,a'ch darostwng i gyd i'ch lladd;canys gelwais, ond ni roesoch ateb,lleferais, ond ni wrandawsoch.Gwnaethoch bethau sy'n atgas gennyf,a dewis yr hyn nad yw wrth fy modd.”

13. Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:“Edrychwch, bydd fy ngweision yn bwyta a chwithau'n newynu;bydd fy ngweision yn yfed a chwithau'n sychedu;bydd fy ngweision yn llawenhau a chwithau'n cywilyddio;

14. bydd fy ngweision yn canu o lawenydda chwithau'n griddfan mewn gofid calon,ac yn galaru mewn ing.

15. Erys eich enw yn felltith gan f'etholedigion;bydd yr Arglwydd DDUW yn dy ddifa,ond fe rydd enw gwahanol ar ei weision.

16. Bydd pawb ar y ddaear sy'n ceisio bendithyn ceisio'i fendith yn enw Duw gwirionedd,a phawb ar y ddaear sy'n tyngu llwyn tyngu ei lw yn enw Duw gwirionedd.”“Anghofir y treialon gynt,ac fe'u cuddir o'm golwg.

17. Yr wyf fi'n creu nefoedd newydd a daear newydd;ni chofir y pethau gynt na meddwl amdanynt.

18. Byddwch lawen, gorfoleddwch yn ddi-baidam fy mod i yn creu,ie, yn creu Jerwsalem yn orfoledd,a'i phobl yn llawenydd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 65