Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 65:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. rhai oedd yn fy mhryfocio'n ddi-baid yn fy wyneb,yn aberthu mewn gerddi ac arogldarthu ar briddfeini,

4. yn eistedd ymhlith y beddau,ac yn treulio'r nos mewn mynwentydd,yn bwyta cig moch, a'u llestri'n llawn o gawl aflan.

5. Dywedant, ‘Cadw draw,paid â'm cyffwrdd, rwy'n rhy sanctaidd i ti.’Y mae'r bobl hyn yn fwg yn fy ffroenau,yn dân sy'n mygu drwy'r dydd.

6. Ond y mae'r cyfan wedi ei ysgrifennu o'm blaen;ni thawaf, ond fe dalaf yn ôl;i'r byw y talaf yn ôl

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 65