Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 63:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pwy yw hwn sy'n dod o Edom,yn dod o Bosra, a'i ddillad yn goch;y mae ei wisg yn hardd,a'i gerddediad yn llawn o nerth?“Myfi yw, yn cyhoeddi cyfiawnder,ac yn abl i waredu.”

2. Pam y mae dy wisg yn goch,a'th ddillad fel un yn sathru mewn gwinwryf?

3. “Bûm yn sathru'r grawnwin fy hunan,ac nid oedd neb o'r bobl gyda mi;sethrais hwy yn fy llid,a'u mathru yn fy nicter.Ymdaenodd eu gwaed dros fy nilladnes cochi fy ngwisgoedd i gyd;

4. oherwydd roedd fy mryd ar ddydd dial,a daeth fy mlwyddyn i waredu.

5. Edrychais, ond nid oedd neb i'm helpu,a synnais nad oedd neb i'm cynnal;fy mraich fy hun a'm gwaredodd,a chynhaliwyd fi gan fy nicter.

6. Sethrais y bobl yn fy llid,a'u meddwi yn fy nicter,a thywallt eu gwaed ar lawr.”

7. Mynegaf ffyddlondeb yr ARGLWYDD,a chanu ei glodyddam y cyfan a roddodd yr ARGLWYDD i ni,a'i ddaioni mawr i dŷ Israel,am y cyfan a roddodd iddynt o'i drugaredd,ac o lawnder ei gariad di-sigl.

8. Fe ddywedodd, “Yn awr, fy mhobl i ydynt,plant nad ydynt yn twyllo”,a daeth yn Waredydd iddynt yn eu holl gystuddiau.

9. Nid cennad nac angel, ond ef ei hun a'u hachubodd;yn ei gariad ac yn ei dosturi y gwaredodd hwy,a'u codi a'u cario drwy'r dyddiau gynt.

10. Ond buont yn wrthryfelgar, a gofidio'i ysbryd sanctaidd;troes yntau'n elyn iddynt,ac ymladd yn eu herbyn.

11. Yna fe gofiwyd am y dyddiau gynt,am Moses a'i bobl.Ple mae'r un a ddygodd allan o'r môrfugail ei braidd?Ple mae'r un a roes yn eu canol hwyei ysbryd sanctaidd,

12. a pheri i'w fraich ogoneddusarwain deheulaw Moses,a hollti'r dyfroedd o'u blaen,i wneud iddo'i hun enw tragwyddol?

13. Arweiniodd hwy trwy'r dyfnderoedd,fel arwain march yn yr anialwch;

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 63