Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 62:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Er mwyn Seion ni thawaf,er mwyn Jerwsalem ni fyddaf ddistaw,hyd oni ddisgleiria'i chyfiawnder yn llachar,a'i hiachawdwriaeth fel ffagl yn llosgi.

2. Bydd y cenhedloedd yn gweld dy gyfiawnder,a'r holl frenhinoedd dy ogoniant;gelwir arnat enw newydd,a roddir i ti o enau'r ARGLWYDD.

3. Byddi'n goron odidog yn llaw'r ARGLWYDD,ac yn dorch frenhinol yn llaw dy Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 62