Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 60:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. “Yn lle pres dygaf aur,yn lle haearn dygaf arian,ac yn lle coed, bres,yn lle cerrig, haearn;gwnaf dy lywodraethwyr yn heddychola'th feistradoedd yn gyfiawn.

18. Ni chlywir mwyach am drais yn dy wlad,nac am ddistryw na dinistr o fewn dy derfynau,ond gelwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth,a'th byrth yn Foliant.

19. “Nid yr haul fydd mwyach yn goleuo i ti yn y dydd,ac nid y lleuad fydd yn llewyrchu i ti yn y nos;ond yr ARGLWYDD fydd yn oleuni di-baid i ti,a'th Dduw fydd yn ddisgleirdeb i ti.

20. Ni fachluda dy haul mwyach,ac ni phalla dy leuad;oherwydd yr ARGLWYDD fydd yn oleuni di-baid i ti,a daw diwedd ar ddyddiau dy alar.

21. Bydd dy bobl i gyd yn gyfiawn,yn gwreiddio yn y tir am byth,yn flaguryn a blennais—fy ngwaith fy hun i'm gogoneddu.

22. Daw'r lleiaf yn llwyth,a'r ychydig yn genedl gref.Myfi yw'r ARGLWYDD;brysiaf i wneud hyn yn ei amser.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 60