Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 60:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Cei sugno llaeth cenhedloedd,a'th fagu ar fronnau brenhinoedd,a chei wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, yw dy achubydd,ac mai Duw cadarn Jacob yw dy Waredydd.

17. “Yn lle pres dygaf aur,yn lle haearn dygaf arian,ac yn lle coed, bres,yn lle cerrig, haearn;gwnaf dy lywodraethwyr yn heddychola'th feistradoedd yn gyfiawn.

18. Ni chlywir mwyach am drais yn dy wlad,nac am ddistryw na dinistr o fewn dy derfynau,ond gelwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth,a'th byrth yn Foliant.

19. “Nid yr haul fydd mwyach yn goleuo i ti yn y dydd,ac nid y lleuad fydd yn llewyrchu i ti yn y nos;ond yr ARGLWYDD fydd yn oleuni di-baid i ti,a'th Dduw fydd yn ddisgleirdeb i ti.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 60