Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 60:12-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Oherwydd difethir y genedl a'r deyrnas sy'n gwrthod dy wasanaethu;dinistrir y cenhedloedd hynny'n llwyr.

13. Daw gogoniant Lebanon atat—y ffynidwydd, y ffawydd a'r pren bocs—i harddu man fy nghysegr,ac anrhydeddu'r lle y gosodaf fy nhraed.

14. Daw plant dy ormeswyr atat yn ostyngedig;bydd pob un a'th ddiystyrodd yn ymostwng wrth dy draed;galwant di yn Ddinas yr ARGLWYDD,Seion Sanct Israel.

15. “Yn lle dy fod yn wrthodedig ac yn atgas,heb neb yn tramwyo trwot,fe'th wnaf yn ogoniant tragwyddol,ac yn llawenydd o oes i oes.

16. Cei sugno llaeth cenhedloedd,a'th fagu ar fronnau brenhinoedd,a chei wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, yw dy achubydd,ac mai Duw cadarn Jacob yw dy Waredydd.

17. “Yn lle pres dygaf aur,yn lle haearn dygaf arian,ac yn lle coed, bres,yn lle cerrig, haearn;gwnaf dy lywodraethwyr yn heddychola'th feistradoedd yn gyfiawn.

18. Ni chlywir mwyach am drais yn dy wlad,nac am ddistryw na dinistr o fewn dy derfynau,ond gelwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth,a'th byrth yn Foliant.

19. “Nid yr haul fydd mwyach yn goleuo i ti yn y dydd,ac nid y lleuad fydd yn llewyrchu i ti yn y nos;ond yr ARGLWYDD fydd yn oleuni di-baid i ti,a'th Dduw fydd yn ddisgleirdeb i ti.

20. Ni fachluda dy haul mwyach,ac ni phalla dy leuad;oherwydd yr ARGLWYDD fydd yn oleuni di-baid i ti,a daw diwedd ar ddyddiau dy alar.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 60