Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 60:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Cod, llewyrcha,oherwydd daeth dy oleuni;llewyrchodd gogoniant yr ARGLWYDD arnat.

2. Er bod tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear,a'r fagddu dros y bobloedd,bydd yr ARGLWYDD yn llewyrchu arnat ti,a gwelir ei ogoniant arnat.

3. Fe ddaw'r cenhedloedd at dy oleuni,a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy wawr.

4. “Cod dy lygaid ac edrych o'th gwmpas;y maent i gyd yn ymgasglu i ddod atat,yn dwyn dy feibion a'th ferched o bell,ac yn eu cludo ar eu hystlys;

5. pan weli, bydd dy wyneb yn gloywi,bydd dy galon yn llawn cyffro a llawenydd;troir atat gyflawnder y môr,a daw golud y cenhedloedd yn eiddo iti.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 60