Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 60:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Cod, llewyrcha,oherwydd daeth dy oleuni;llewyrchodd gogoniant yr ARGLWYDD arnat.

2. Er bod tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear,a'r fagddu dros y bobloedd,bydd yr ARGLWYDD yn llewyrchu arnat ti,a gwelir ei ogoniant arnat.

3. Fe ddaw'r cenhedloedd at dy oleuni,a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy wawr.

4. “Cod dy lygaid ac edrych o'th gwmpas;y maent i gyd yn ymgasglu i ddod atat,yn dwyn dy feibion a'th ferched o bell,ac yn eu cludo ar eu hystlys;

5. pan weli, bydd dy wyneb yn gloywi,bydd dy galon yn llawn cyffro a llawenydd;troir atat gyflawnder y môr,a daw golud y cenhedloedd yn eiddo iti.

6. Bydd gyrroedd o gamelod yn dy orchuddio,daw camelod masnach o Midian, Effa a Sheba;byddant i gyd yn cludo aur a thus,ac yn mynegi moliant yr ARGLWYDD.

7. Cesglir holl ddefaid Cedar atat,a bydd hyrddod Nebaioth at dy wasanaeth;offrymir hwy'n aberthau derbyniol ar fy allor,ac ychwanegaf at ogoniant fy nhÅ· gogoneddus.

8. “Pwy yw'r rhain sy'n ehedeg fel cwmwl,ac fel colomennod i'w nythle?

9. Y mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu,a llongau Tarsis ar y blaen,i ddod â'th blant o bell,a'u harian a'u haur gyda hwy,er anrhydedd i'r ARGLWYDD dy Dduw, Sanct Israel;oherwydd y mae wedi dy ogoneddu.

10. “Dieithriaid fydd yn codi dy furiau,a'u brenhinoedd yn dy wasanaethu,oherwydd, er i mi yn fy nig dy daro,penderfynais dosturio wrthyt.

11. Bydd dy byrth yn agored bob amser,heb eu cau ddydd na nos,er mwyn dwyn golud y cenhedloedd atat,gyda'u brenhinoedd yn osgordd.

12. Oherwydd difethir y genedl a'r deyrnas sy'n gwrthod dy wasanaethu;dinistrir y cenhedloedd hynny'n llwyr.

13. Daw gogoniant Lebanon atat—y ffynidwydd, y ffawydd a'r pren bocs—i harddu man fy nghysegr,ac anrhydeddu'r lle y gosodaf fy nhraed.

14. Daw plant dy ormeswyr atat yn ostyngedig;bydd pob un a'th ddiystyrodd yn ymostwng wrth dy draed;galwant di yn Ddinas yr ARGLWYDD,Seion Sanct Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 60