Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 57:8-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Gosodaist dy arwydd ar gefn y drws a'r pyst,a'm gadael i a'th ddinoethi dy hun;aethost i fyny yno i daenu dy welyac i daro bargen â hwy.Rwyt wrth dy fodd yn gorwedd gyda hwy,a gweld eu noethni.

9. Ymwelaist â Molech gydag olew,ac amlhau dy beraroglau;anfonaist dy negeswyr i bob cyfeiriad,a'u gyrru hyd yn oed i Sheol.

10. Blinaist gan amlder dy deithio,ond ni ddywedaist, ‘Dyna ddigon.’Enillaist dy gynhaliaeth,ac am hynny ni ddiffygiaist.

11. “Pwy a wnaeth iti arswydo ac ofni,a gwneud iti fod yn dwyllodrus,a'm hanghofio, a pheidio â meddwl amdanaf?Oni fûm ddistaw, a hynny'n hir,a thithau heb fy ofni?

12. Cyhoeddaf dy gyfiawnder a'th weithredoedd.Ni fydd dy eilunod o unrhyw les iti;

13. pan weiddi, ni fyddant yn dy waredu.Bydd y gwynt yn eu dwyn ymaith i gyd,ac awel yn eu chwythu i ffwrdd.Ond bydd y sawl a ymddiried ynof fiyn meddiannu'r ddaear,ac yn etifeddu fy mynydd sanctaidd.”

14. Fe ddywedir,“Gosodwch sylfaen, paratowch ffordd;symudwch bob rhwystr oddi ar ffordd fy mhobl.”

15. Oherwydd fel hyn y dywed yr uchel a dyrchafedig,sydd â'i drigfan yn nhragwyddoldeb,a'i enw'n Sanctaidd:“Er fy mod yn trigo mewn uchelder sanctaidd,rwyf gyda'r cystuddiol ac isel ei ysbryd,i adfywio'r rhai isel eu hysbryd,a bywhau calon y rhai cystuddiol.

16. Ni fyddaf yn ymryson am bythnac yn dal dig yn dragywydd,rhag i'w hysbryd ballu o'm blaen;oherwydd myfi a greodd eu hanadl.

17. Digiais wrtho am ei wanc pechadurus,a'i daro, a throi mewn dicter oddi wrtho;aeth yntau rhagddo'n gyndyn yn ei ffordd ei hun,

18. ond gwelais y ffordd yr aeth.Iachâf ef, a rhoi gorffwys iddo;

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 57