12. Cyhoeddaf dy gyfiawnder a'th weithredoedd.Ni fydd dy eilunod o unrhyw les iti;
13. pan weiddi, ni fyddant yn dy waredu.Bydd y gwynt yn eu dwyn ymaith i gyd,ac awel yn eu chwythu i ffwrdd.Ond bydd y sawl a ymddiried ynof fiyn meddiannu'r ddaear,ac yn etifeddu fy mynydd sanctaidd.”
14. Fe ddywedir,“Gosodwch sylfaen, paratowch ffordd;symudwch bob rhwystr oddi ar ffordd fy mhobl.”
15. Oherwydd fel hyn y dywed yr uchel a dyrchafedig,sydd â'i drigfan yn nhragwyddoldeb,a'i enw'n Sanctaidd:“Er fy mod yn trigo mewn uchelder sanctaidd,rwyf gyda'r cystuddiol ac isel ei ysbryd,i adfywio'r rhai isel eu hysbryd,a bywhau calon y rhai cystuddiol.
16. Ni fyddaf yn ymryson am bythnac yn dal dig yn dragywydd,rhag i'w hysbryd ballu o'm blaen;oherwydd myfi a greodd eu hanadl.
17. Digiais wrtho am ei wanc pechadurus,a'i daro, a throi mewn dicter oddi wrtho;aeth yntau rhagddo'n gyndyn yn ei ffordd ei hun,
18. ond gwelais y ffordd yr aeth.Iachâf ef, a rhoi gorffwys iddo;
19. cysuraf ef, a rhoi geiriau cysur i'w alarwyr.Heddwch i'r pell ac i'r agos,”medd yr ARGLWYDD, “a mi a'i hiachâf ef.”
20. Ond y mae'r drygionus fel môr tonnogna fedr ymdawelu,a'i ddyfroedd yn corddi llaid a baw.
21. “Nid oes heddwch i'r drygionus,”medd fy Nuw.