Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 57:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae'r cyfiawn yn darfod amdano heb neb yn malio;cymerir ymaith bobl deyryngar heb neb yn malio.Ond cyn dyfod drygfyd cymerir ymaith y cyfiawn,

2. ac fe â i dangnefedd;a gorffwyso yn ei welyy bydd y sawl sy'n rhodio'n gywir.

3. “Dewch yma, chwi blant hudoles,epil y godinebwr a'r butain.

4. Pwy yr ydych yn ei wawdio?Ar bwy yr ydych yn gwneud ystumiau ac yn tynnu tafod?Onid plant gwrthryfelgar ydych, ac epil twyll,

5. chwi sy'n llosgi gan nwyd dan bob pren derw,dan bob pren gwyrddlas,ac yn aberthu plant yn y glynnoedd,yn holltau'r clogwyni?

6. Ymhlith cerrig llyfn y dyffryn y mae dy ddewis;yno y mae dy ran.Iddynt hwy y tywelltaist ddiodoffrwm,ac y dygaist fwydoffrwm.A gaf fi fy nhawelu am hyn?

7. Gwnaethost dy wely ar fryn uchel a dyrchafedig,a mynd yno i offrymu aberth.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 57