Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 56:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. dygaf y rhain i'm mynydd sanctaidd,a rhof iddynt lawenydd yn fy nhŷ gweddi,a derbyn eu poethoffrwm a'u haberth ar fy allor;oherwydd gelwir fy nhŷ yn dŷ gweddi i'r holl bobloedd,”

8. medd yr Arglwydd DDUW,sy'n casglu alltudion Israel.“Casglaf ragor eto at y rhai sydd wedi eu casglu.”

9. Dewch i ddifa, chwi fwystfilod gwyllt,holl anifeiliaid y coed.

10. Y mae'r gwylwyr i gyd yn ddall a heb ddeall;y maent i gyd yn gŵn mud heb fedru cyfarth,yn breuddwydio, yn gorweddian, yn hoffi hepian,

11. yn gŵn barus na wyddant beth yw digon.Y maent hefyd yn fugeiliaid heb fedru deall,pob un yn troi i'w ffordd ei hun,a phob un yn edrych am elw iddo'i hun,

12. ac yn dweud, “Dewch, af i gyrchu gwin;gadewch i ni feddwi ar ddiod gadarn;bydd yfory'n union fel heddiw,ond yn llawer gwell.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 56