Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 55:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. “Fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaear,y mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chwi,a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi.

10. Fel y mae'r glaw a'r eira yn disgyn o'r nefoedd,a heb ddychwelyd yno nes dyfrhau'r ddaear,a gwneud iddi darddu a ffrwythloni,a rhoi had i'w hau a bara i'w fwyta,

11. felly y mae fy ngair sy'n dod o'm genau;ni ddychwel ataf yn ofer,ond fe wna'r hyn a ddymunaf,a llwyddo â'm neges.

12. “Mewn llawenydd yr ewch allan,ac mewn heddwch y'ch arweinir;bydd y mynyddoedd a'r bryniau'n bloeddio canu o'ch blaen,a holl goed y maes yn curo dwylo.

13. Bydd ffynidwydd yn tyfu yn lle drain,a myrtwydd yn lle mieri;bydd hyn yn glod i'r ARGLWYDD,yn arwydd tragwyddol na ddileir mohono.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 55