Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 54:7-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. “Am ennyd fechan y'th adewais,ond fe'th ddygaf yn ôl â thosturi mawr.

8. Am ychydig, mewn dicter moment,cuddiais fy wyneb rhagot;ond â chariad di-baid y tosturiaf wrthyt,”medd yr ARGLWYDD, dy Waredydd.

9. “Y mae hyn i mi fel dyddiau Noa,pan dyngais nad âi dyfroedd Noabyth mwyach dros y ddaear;felly tyngaf na ddigiaf wrthyt ti byth mwy,na'th geryddu ychwaith.

10. Er i'r mynyddoedd symud,ac i'r bryniau siglo,ni symuda fy ffyddlondeb oddi wrthyt,a bydd fy nghyfamod heddwch yn ddi-sigl,”medd yr ARGLWYDD, sy'n tosturio wrthyt.

11. “Y druan helbulus, ddigysur!Rwyf am osod dy feini mewn morter,a'th sylfeini mewn saffir.

12. Gwnaf dy dyrau o ruddem,a'th byrth o risial;bydd dy fur i gyd yn feini dethol,

13. a'th adeiladwyr oll wedi eu dysgu gan yr ARGLWYDD.Daw llwyddiant mawr i'th blant,

14. a byddi wedi dy sylfaenu ar gyfiawnder;byddi'n bell oddi wrth orthrymder, heb ofn arnat,ac oddi wrth ddychryn, na ddaw'n agos atat.

15. Os bydd rhai yn ymosod arnat,nid oddi wrthyf fi y daw hyn;bydd pwy bynnag sy'n ymosod arnat yn cwympo o'th achos.

16. Edrych, myfi a greodd y gof,sy'n chwythu'r marwor yn dân,ac yn llunio arf at ei waith;myfi hefyd a greodd y dinistrydd i ddistrywio.

17. Ond ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn;gwrthbrofir pob tafod a'th gyhudda mewn barn.Dyma etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD,ac oddi wrthyf fi y daw eu goruchafiaeth,”medd yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 54