Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 54:5-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Oherwydd yr un a'th greodd yw dy ŵr— ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw;Sanct Israel yw dy waredydd,a Duw yr holl ddaear y gelwir ef.

6. Fel gwraig wedi ei gadael, a'i hysbryd yn gystuddiol,y galwodd yr ARGLWYDD di—gwraig ifanc wedi ei gwrthod,”medd dy Dduw.

7. “Am ennyd fechan y'th adewais,ond fe'th ddygaf yn ôl â thosturi mawr.

8. Am ychydig, mewn dicter moment,cuddiais fy wyneb rhagot;ond â chariad di-baid y tosturiaf wrthyt,”medd yr ARGLWYDD, dy Waredydd.

9. “Y mae hyn i mi fel dyddiau Noa,pan dyngais nad âi dyfroedd Noabyth mwyach dros y ddaear;felly tyngaf na ddigiaf wrthyt ti byth mwy,na'th geryddu ychwaith.

10. Er i'r mynyddoedd symud,ac i'r bryniau siglo,ni symuda fy ffyddlondeb oddi wrthyt,a bydd fy nghyfamod heddwch yn ddi-sigl,”medd yr ARGLWYDD, sy'n tosturio wrthyt.

11. “Y druan helbulus, ddigysur!Rwyf am osod dy feini mewn morter,a'th sylfeini mewn saffir.

12. Gwnaf dy dyrau o ruddem,a'th byrth o risial;bydd dy fur i gyd yn feini dethol,

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 54