Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 54:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Cân di, y wraig ddi-blant na chafodd esgor;dyro gân, bloeddia ganu, ti na phrofaist wewyr esgor;oherwydd y mae plant y wraig a adawyd yn lluosocach na phlant y wraig briod,”medd yr ARGLWYDD.

2. “Helaetha faint dy babell,estyn allan lenni dy drigfannau;gollwng y rhaffau allan i'r pen,a sicrha'r hoelion.

3. Oherwydd byddi'n ymestyn i'r dde ac i'r chwith;bydd dy had yn disodli'r cenhedloedd,ac yn cyfanheddu dinasoedd anrheithiedig.

4. Paid ag ofni, oherwydd ni chywilyddir di,ni ddaw gwaradwydd na gwarth arnat;oherwydd fe anghofi gywilydd dy ieuenctid,ac ni chofi bellach am warth dy Weddwdod.

5. Oherwydd yr un a'th greodd yw dy ŵr— ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw;Sanct Israel yw dy waredydd,a Duw yr holl ddaear y gelwir ef.

6. Fel gwraig wedi ei gadael, a'i hysbryd yn gystuddiol,y galwodd yr ARGLWYDD di—gwraig ifanc wedi ei gwrthod,”medd dy Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 54