Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 51:3-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion,yn cysuro ei holl fannau anghyfannedd;bydd yn gwneud ei hanialwch yn Eden,a'i diffeithwch yn ardd yr ARGLWYDD;ceir o'i mewn lawenydd a gorfoledd,emyn diolch a sain cân.

4. “Gwrandewch arnaf, fy mhobl;clywch fi, fy nghenedl;oherwydd daw cyfraith allan oddi wrthyf,a bydd fy marn yn goleuo pobloedd.

5. Y mae fy muddugoliaeth gerllaw,a'm hiachawdwriaeth ar ddod;bydd fy mraich yn rheoli'r bobloedd;bydd yr ynysoedd yn disgwyl wrthyf,ac yn ymddiried yn fy mraich.

6. Codwch eich golwg i'r nefoedd,edrychwch ar y ddaear islaw;y mae'r nefoedd yn diflannu fel mwg,a'r ddaear yn treulio fel dilledyn,a'i thrigolion yn marw fel gwybed;ond bydd fy iachawdwriaeth yn parhau byth,ac ni phalla fy muddugoliaeth.

7. “Gwrandewch arnaf, chwi sy'n adnabod cyfiawnder,rhai sydd â'm cyfraith yn eu calon:Peidiwch ag ofni gwaradwydd pobl,nac arswydo rhag eu gwatwar;

8. oherwydd bydd y pryf yn eu hysu fel dilledyn,a'r gwyfyn yn eu bwyta fel gwlân;ond bydd fy muddugoliaeth yn parhau byth,a'm hiachawdwriaeth i bob cenhedlaeth.”

9. Deffro, deffro, gwisg dy nerth,O fraich yr ARGLWYDD;deffro, fel yn y dyddiau gynt,a'r oesoedd o'r blaen.Onid ti a ddrylliodd Rahab,a thrywanu'r ddraig?

10. Onid ti a sychodd y môr,dyfroedd y dyfnder mawr?Onid ti a wnaeth ddyfnderau'r môr yn fforddi'r gwaredigion groesi?

11. Fe ddychwel gwaredigion yr ARGLWYDD;dônt i Seion dan ganu,a llawenydd tragwyddol ar bob un.Hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd,a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.

12. “Myfi, myfi sy'n eich diddanu;pam, ynteu, yr ofnwch neb meidrol,neu rywun sydd fel glaswelltyn?

13. Pam yr ydych yn anghofio'r ARGLWYDD, eich creawdwr,yr un a ledodd y nefoedd,ac a sylfaenodd y ddaear?Pam yr ofnwch o hyd, drwy'r dydd,rhag llid gorthrymwr sy'n barod i ddistrywio?Ond ple mae llid y gorthrymwr?

14. Caiff y caeth ei ryddhau yn y man;ni fydd yn marw yn y gell,ac ni fydd pall ar ei fara.

15. Myfi yw'r ARGLWYDD, dy Dduw,sy'n cynhyrfu'r môr nes i'r tonnau ruo; ARGLWYDD y Lluoedd yw fy enw.

16. Gosodais fy ngeiriau yn dy enau,cysgodais di yng nghledr fy llaw;taenais y nefoedd a sylfaenais y ddaear,a dweud wrth Seion, ‘Fy mhobl wyt ti.’ ”

17. Deffro, deffro, cod, Jerwsalem;yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lid,yfaist bob dafn o waddod y cwpan meddwol.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 51