Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 51:13-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Pam yr ydych yn anghofio'r ARGLWYDD, eich creawdwr,yr un a ledodd y nefoedd,ac a sylfaenodd y ddaear?Pam yr ofnwch o hyd, drwy'r dydd,rhag llid gorthrymwr sy'n barod i ddistrywio?Ond ple mae llid y gorthrymwr?

14. Caiff y caeth ei ryddhau yn y man;ni fydd yn marw yn y gell,ac ni fydd pall ar ei fara.

15. Myfi yw'r ARGLWYDD, dy Dduw,sy'n cynhyrfu'r môr nes i'r tonnau ruo; ARGLWYDD y Lluoedd yw fy enw.

16. Gosodais fy ngeiriau yn dy enau,cysgodais di yng nghledr fy llaw;taenais y nefoedd a sylfaenais y ddaear,a dweud wrth Seion, ‘Fy mhobl wyt ti.’ ”

17. Deffro, deffro, cod, Jerwsalem;yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lid,yfaist bob dafn o waddod y cwpan meddwol.

18. O blith yr holl blant yr esgorodd arnynt,nid oes un a all ei thywys;o'r holl rai a fagodd,nid oes un a afael yn ei llaw.

19. Daeth dau drychineb i'th gyfarfod—pwy a'th ddiddana?Dinistr a distryw, newyn a chleddyf—pwy a'th gysura?

20. Gorwedd dy blant yn llesg ym mhen pob heol,fel gafrewig mewn magl;y maent yn llawn o lid yr ARGLWYDD,a cherydd dy Dduw.

21. Am hynny, gwrando'n awr, y druan,sy'n feddw, er nad trwy win.

22. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, dy Arglwydd a'th Dduw di,yr un sy'n dadlau achos ei bobl:“Cymerais o'th law y cwpan meddwol,ac nid yfi mwyach waddod cwpan fy llid;

23. ond rhof hi yn llaw dy ormeswyr,a ddywedodd wrthyt, ‘Plyga i lawri ni gerdded trosot.’Ac fe roist dy gefn fel llawr,ac fel heol iddynt gerdded trosti.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 51